(EN: Greater Stitchwort, DA: Stor Fladstjerne)
Teulu: Caryophylaceae
Mae'n anodd gweld gwahaniaeth rhwng y ddwy rywogaeth yma wrth edrych ar luniau. Ond mae'n haws gweld yn y maes pa'r un ydi pa'r un.
Fel mae'r enwau'n awgrymu, mae'r serenllys mawr yn fwy na'r serenllys bach - mwy o lawer.
Mae'r serenllys mawr yn blodeuo rhwng mis Mawrth a mis Mehefin, tan mae'r serenllys bach yn blodeuo rhwng mis Mehefin a mis Awst. Felly os welwch lu o flodau gwynion wrth ochr lôn ar ddechrau'r gwanwyn, ymysg blodau'r gog a blodau'r neidr, tebyg na serenllys mawr yw hwn. Os welwch flodyn bach gwyn yn guddiad yn y glaswellt ym mis Gorffennaf ymlaen, y serenllys bach yw hwn.